Mairiona GwendolineOWENDymuna Eifion, Betty, Gwilym, Dona a Keith, teulu'r ddiweddar IONA, Tyddyn Siencyn, Llangwyllog, ddiolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt yn eu profedigaeth o golli chwaer, chwaer yng nghyfraith a modryb annwyl. Bu gwasanaeth arbennig a theyrnged gartrefol y Parch. Christopher Prew ar ddydd yr angladd yn gysur mawr. Derbyniwyd yn ddiolchgar roddion tuag at Feddygfa Coed y Glyn, Llangefni. Gwerthfawrogwyd drefniadau trylwyr a gofalgar yr Ymgymerwr, Mr Gareth Owen, Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Y Fali
Keep me informed of updates
Add a tribute for Mairiona