Alun GlynneOWENDymuna Ann, Arwel, Dylan, Sharon ac Alaw Tyn Refail, Penmynydd ddiolch yn ddifuant iawn i'r teulu, ffrindiau a chymdogion am bob cymorth a chydymdeimlad tuag atom yn ein profedigaeth o golli Alun. Diolch am bob ymweliad a galwad ffôn a'r cardiau niferus dderbynwyd. Diolch i Parchedig Hugh Pritchard am ei wasanaeth ddydd yr angladd, i Mr Leon Gibson am ei deyrnged deimladwy ac i Mrs Elizabeth Williams am ei gwasanaeth wrth yr organ. Gwerthfawrogwn gymorth amrhrisiadwy a threfniadau trylwr Mr Gareth Owen o Griffith Roberts A'i Fab, Preswylfa, Fali. Diolch i'r dyrfa luosog ddaeth i'r angladd ac am y rhoddion hael dderbynnwyd tuag at Ymchwil Canser a Chanolfa Gymdeithasol Penmynydd y swm anrhyded o £2220.00. Bu'r oll yn gysur mawr i ni fel teulu. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates