William TudorOWEN25 Awst, 2025. Yn sydyn, ond eto'n dawel yn Ysbyty Alltwen, Tremadog, ac o Langdale, 2 Sgwâr Uxbridge, Caernarfon, yn 77 mlwydd oed.
Priod cariadus a ffyddlon Brenda, a thad arbennig Denise a Rhys. Taid balch Eban, Rhydian, Llanw ac Efa, tad-yng-nghyfraith hoffus Zsuzsa a Dewi, a ffrind a chymydog triw i'w deulu a'i ffrindiau oll. Bu Tudor yn weithiwr diflino fel cynghorydd dros Ward Peblig ar Gyngor Gwynedd, a bydd yn golled fawr i bawb oedd yn ei adnabod.
Angladd fore Gwener, 12 Medi, 2025. Gwasaneth cyhoeddus yn Eglwys Llanbeblig am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd yn y Fynwent Newydd am oddeutu hanner-dydd.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Tiwd tuag at Uned Dialysis Alltwen, Ysbyty Alltwen, Tremadog. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William