GlenysOWEN(NÉE HOWEL) 11 Rhagfyr, 2025. Yn dawel yn ei chartref, Isgaer, 21 Segontium Road South, Caernarfon, yn 95 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Robat, a chwaer hoff y diweddar Gwilym, Huw, Gwyneth a Helen. Hefyd chwaer-yng-nghyfraith addfwyn a modryb a hen-fodryb ofalus. Angladd brynhawn Mawrth, 6 Ionawr, 2026.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 2.30 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Glenys tuag at yr elusen spina bifida SHINE (shinecharity.org.uk). Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates