Gareth WynOWEN-CWSG- 25 Ebrill, 2026. Yn sydyn, yn dilyn brwydr hir a dewr gyda Sglerosis Ymledol (MS), yng Nghartref Nyrsio Glan Rhos, Brynsiencyn, yn 62 mlwydd oed. Yn wreiddiol o Garn Fawr/Pentwr, Pontllyfni, Tŷ Mawr Talsarnau ac yn ddiweddar o Cuddfan, Niwbwrch, Ynys Môn. Priod ffyddlon a chariadus i Elma, llysdad arbennig Catrin a Daniel, tad balch Meirion a'i bartner, Lowri, Sian a Nia, a thaid i Noa, Nel, Ffion a Deio. Mab i Jean a'r diweddar Dafydd, brawd, brawd-yng-nghyfraith a mab-yng-nghyfraith arbennig. Hefyd yn ffrind triw i lawer.
Angladd brynhawn Llun, 1 Mehefin, 2026. Gwasanaeth yn amlosgfa Bangor am hanner dydd.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Gareth tuag at Feddygfa Penbryn, Dwyran. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
25 April, 2026. Suddenly, following a long and courageous battle with Multiple Sclerosis (MS), at Glan Rhos Nursing Home, Brynsiencyn, aged 62 years. Originally from Garn Fawr/Pentwr, Pontllyfni, Tŷ Mawr Talsarnau and recently of Cuddfan, Newborough, Anglesey. Loving and devoted husband of Elma, treasured step-father of Catrin and Daniel, proud father of Meirion and his partner, Lowri, Sian and Nia, and grandfather of Noa, Nel, Ffion and Deio. Son of Jean and the late Dafydd, treasured brother, brother-in-law and son-in-law. Also, a true and loyal friend to many.
Funeral on Monday, 1 June, 2026. Service at Bangor Crematorium at 12.00 noon.
Family flowers only, but donations in memory of Gareth will be gratefully accepted towards Penbryn Surgery, Dwyran. Enquiries to Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates