RichardOWENSDymuna teulu y diweddar Richards Owens, Cartref Bryn yr Eglwys, Pentrefoelas (gynt o Betws yn Rhos) ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt yn eu profedigaeth o golli tad, taid a hen daid arbennig iawn. Hoffem fel teulu ddiolch i gartref Bryn yr Eglwys am y gofal a'r croeso arbennig dderbynniodd yno dros y 5 mis diwethaf. Diolch i'r Parchedigion Ifor ap Gwilym, a'r Dr. Huw John Hughes am eu rhan yn y gwasanaeth, i Rhiannon Jones yr organyddes ag arweinwyr y g?n. Derbyniwyd rhoddion anrhydeddus tuag at Gapel Hyfrydle a Mynwent Gymunedol Betws yn Rhos. Yn olaf diolch yn ddiffuant iawn i'r ymgymerwyr R W Roberts a'i Fab, am eu trefniadau trylwyr a theimladwy.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Richard