Glenys MaryOWENSYn dawel ddydd Iau 25ain Awst 2022, yn Ysbyty Treforus, hunodd Glenys, Llwynhelyg, Mynachlogddu. Priod hoff y diweddar Ben, mam annwyl Janet, Wyn, Ann, Huw, Jill a Nia, mam yng nghyfraith, mamgu a hen famgu ofalus. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Bethel, Mynachlogddu ddydd Mawrth 6ed Medi am 12 o'r gloch ac i ddilyn yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 2.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion er cof os dymunir tuag at yr achos yng Nghapel Bethel, Mynachlogddu trwy law Mr. Hefin Parri-Roberts, Brynglandy, Efailwen. SA66 7RS Ymholiadau i Dennis Jones Trefnwr Angladdau, Efailwen, Ffon 01994 419561.
Keep me informed of updates