Hugh EryriOWENSDymuna Mair, Malcolm, Verona a'r teulu ddiolch o waelod calon am yr holl garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad, tad-yng-nghyfraith, taid, hen-daid, brawd a brawd-yng-nghyfraith annwyl ac arbennig iawn. Gwerthfawrogwyd y llu o gardiau, galwadau ffôn, ymweliadau a chyfraniadau hael tuag at Gronfa Staff Cartref Willow Hall Caernarfon. Diolch am eu rhan i'r Parchedig Anna Jane, Parchedig Gwenda Richards, yr organydd Gwyn Lewis ac am gerddoriaeth teimladwy iawn gan Annette Bryn Parry yn y gwasanaeth. Diolch hefyd i Iolo a'r staff o Roberts & Owen am eu caredigrwydd a'r trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates