Gareth WynPARRYChwefror 9fed 2026, hunodd yn dawel yn aelwyd ei gartref Glasfryn, Pentraeth yn 80 mlwydd oed yng nghariad tyner ei gymar Magi a'i blant annwyl Dylan ac Annwen, tad yng nghyfraith caredig Andrew, taid arbennig a ffrind triw i lawer. Angladd i'r teulu a ffrindiau yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener Mawrth 13eg am 11.00 y bore. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Gareth yn ddiolchgar tuag at "Tuag Adref" drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Rhif Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates