Eirwen NadoligPIERCEDymuna Carys, Helen a'r teulu ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, mam yng nghyfraith, nain, chwaer, chwaer yng nghyfraith, modryb a chyfnither annwyl iawn. Diolch hefyd am y rhoddion hael tuag at Glwb Gofal Dydd Capel Waengoleugoed a Chartref Preswylfa, gyda diolch arbennig am eu gofal hwythau. Diolch i'r Parchedig Ddr Andras Iago, y Parchedig Nesta Davies a'r Parchedig Graham Floyd am wasanaeth teimladwy, i Ann Edwards am chwarae'r organ ac i Arwyn Roberts am godi canu yn y Capel, i Heulwen, Margaret, Iona a Caryl am baratoi'r lluniaeth, ac i Arwel Jones o gwmni R W Roberts a'i Fab am y trefniadau urddasol.
Keep me informed of updates