Mair ElunedPRICEYn dawel yng nghwmni ei theulu ar 20 Rhagfyr 2025, o Blaen y Wawr Chwilog a gynt o Gwag y Noe yn 95 mlwydd oed, Mair Eluned.
Gweddw'r diweddar Rhys a mam ofalus Margaret a'i diweddar briod Simon. Nain werthfawr a chefnogol i Dafydd a'i briod Laura, Rhiannon a'i phriod Iolo ac Elen a'i phriod Dafydd. Hen nain falch a hwyliog i Gwenith, Robin, Simon, Briall, Nyfain, Gorwel ac Ebran. Chwaer iau i'r diweddar John(Pentra, Botwnnog) a chwaer fawr warchodol i Robs a'i briod Linda.
Angladd hollol breifat yn ôl ei dymuniad ond pe dymunid derbynnir rhoddion er cof amdani at Gronfa Mynwent Chwilog trwy law yr ymgymerwyr
Henry Jones Cyf,
Rhes Capel, Cricieth.
Tel: (01766) 522854.
Keep me informed of updates