FalmaiPRITCHARDDymuna John ac Aled, Dafydd a Gwenno, Gethin ac Annabel, Gruffudd a Gwawr a theulu Falmai, Cilfynydd, Llanberis ddiolch am bob cydymdeimlad wedi ei marwolaeth ar Fawrth 15. Diolch am gyfarchion cymdogion, aelodau'r eglwysi, ffrindiau, a chydweithwyr Falmai yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Diolch i'r canlynol: pawb a ddaeth i'r angladd yn Eglwys Sant Padarn ar Fawrth 24; Robert, Euros, Gwyn, Bryn a Rhodri am eu gwasanaeth; Gwenant ac aelodau C?r Seiriol am eu datganiad; Bethan a Gareth yr organyddion; Carol a swyddogion yr Eglwys am eu croeso; a Jane a Gwynfor o gwmni E. W. Pritchard am y trefniadau. Diolch i Dr Esyllt Llwyd a meddygon Waunfawr, a Dr Catherine Bale a phawb yn Uned Alaw, Ysbyty Gwynedd am eu gofal. A diolch am y rhoddion hael er cof am Falmai at Tearfund a Hospis yn y Cartref Gwynedd ac Ynys M?n.
Keep me informed of updates