MelvynPRITCHARDDymuna Prydwen a theulu y diweddar Melvyn Pritchard, Stryd Newton, Llanberis ddatgan eu diolch am bob caredigrwydd a chefnogaeth a'r cydmdeimlad a dderbyniwyd yn dilyn eu profedigaeth o golli priod, tad, taid a brawd arbennig. Diolch am y llu cardiau, negeseuon, galwadau ffôn a'r rhoddion a dderbyniwyd er cof tuag at Meddygfa Llanberis a Ward Moelwyn Ysbyty Gwynedd, a mawr ein diolch am y gofal a'r cymorth oddi wrth y meddygon a staff y Feddygfa a'r Ward a hefyd y nyrsys a'r gofalwyr cymunedol. Diolch i'r Canon Robert Townsend am ei wasanaeth ddydd yr angladd, yr organyddes a'r warden am eu cymorth. Diolch i staff Ty'n Llan, Nant Peris am baratoi y lluniaeth a diolch i Meinir o Dylan Griffith, Cyfarwyddwyr Angladdau, Penisarwaen am y trefniadau gofalus a thrylwyr. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates