Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

Acknowledgement for Glenys Margaret PRITCHARD (Morris)

Llanerchymedd | Published in: Daily Post.

Change notice background image
Glenys MargaretPRITCHARDMorris Ynys Fawr, Llanerchymedd. Dymuna Trefor, Helen a'u teuluoedd ddiolch o galon i deulu, ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad â estynwyd iddynt yn eu profedigaeth sydyn o golli Mam a Nain arbennig ac amrhisiadwy. Gwerthfawrogwyd yr holl ymweliadau, cardiau, galwadau ffon, negeseuon caredig a'r blodau a dderbyniwyd, maent wedi bod yn gysur mawr i ni. Diolch i Feddygon a Staff Ward Conwy Ysbyty Gwynedd lle derbynwyd gofal tyner. Diolch arbennig iawn i Parchedig Llewelyn Moules-Jones am ei gymorth ac am arwain gwasanaeth teilwng a theimladwy. A hefyd ei Phriod PRITCHARD - THOMAS GLYN Dymuna Trefor, Helen a'u teuluoedd ddiolch o galon i deulu, ffrindaiu a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad estynwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Tad a Taid arbennig. Llawer o ddiolch i Cymorth Llaw, Carelink, Nyrsys Cymunedol, Meddygfa Glan Menai a phawb yn y maes gofal iechyd am roi'r cefnogaeth a'r cymorth gorau posib iddo a'r teulu yn ystod cyfnod anodd iawn. Diolch i'r Parchedig Emlyn Williams am gynnal gwasanaeth ac i Dafydd Parry, Ynys Bach am y deyrnged ac am gyfleu dymuniadadau'r teulu, ac hefyd i'r organyddes Sarah Evans Diolch i Staff Dydd a Nos Glan Rhos, Brynsiencyn am eu gofal yn ystod yr amser byr y bu'n gofalu am Glyn. Diolch yn arbenning i Iris Pritchard am ei gofal diflino a chymwynasgar tuag atom fel teulu. Hoffem ddiolch i deulu a ffrindiau a oedd mor barod eu cymwynas i helpu yn ystod y cyfnod annodd hwn. Diolch am y rhoddion hael, fe gasglwyd cyfanswm o £2500 er eu cof tuag at Ward Conwy, Ysbyty Gwynedd a Meddygfa Glan Menai, Llannerch y medd. Diolch i Gwenan a Myfanwy o W O Williams, Rose & Thistle, Llanedwen am eu gofal proffesiynol ac i Westy Treysgawen am baratoi y lluniaeth. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Glenys
1127 visitors
|
Published: 21/12/2019
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
Next
Denise DOWDELL