Ellen MaryPRITCHARD26 Awst, 2025. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, gynt o Isallt, Ffordd yr Eglwys, Talysarn yn 91 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar David Alun Owen Pritchard (Dei P), mam dyner David a Gillian, mam-yng-nghyfraith Ann, nain amhrisiadwy Enfys, Elliw, Gwenno ac Owain, hen nain Osian Dafydd, Owain Dafydd, Deio Siôn a Lois Dafydd a chwaer hoffus Mary Wyn.
Angladd brynhawn Llun, 15 Medi, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni am 1.00 o'r gloch gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent yr Eglwys. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ellen tuag at elusennau lleol.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates