Elizabeth BerylREESDymuna Glanville, Maureen a Milton a'r teulu i gyd ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn ystod eu profedigaeth o golli mam, mam-yng-ngyfraith , mamgu a hen-famgu annwyl sef Elizabeth (Liz) Rees, Blaendewi Fach, Trelech. Bu'r Capel yn Bwlch-Y-Groes, Penfro yn agos iawn at ei chalon ac yn rhan annatod o'i bywyd ar hyd ei hoes. Diolch i'r Parchedig Carys Ann am wasanaeth urddasol, hefyd i'r Parchedig Towyn Jones a gymerodd ran yn y ty, roedd yn nai iddi. A gwerthfarogwyd cydymdiemlad y Parchedig Dr Felix Aubel a'r ran ardal Trelech, a diolch arbennig i Delmi James am ei wasanaeth angladdol, parchus ac urddasol. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth