ArfonaREESDymuna'r teulu ddatgan eu gwerthfawrogiad cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, llys-fam a chyfnither arbennig iawn. Diolch am y geiriau caredig trwy lythyrau, cardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau. Cafwyd gwasanaeth teilwng a theimladwy i ddathlu ei bywyd dan ofal y Parchedig Helen Wyn Jones. Diolch hefyd i Gwyn Jones am ei wasanaeth wrth yr organ ac i bawb fu'n cynorthwyo yng Nghapel y Rhos ar ddydd yr angladd. Diolchwn am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd-Orllewin. Hoffwn hefyd ddiolch i staff R.W.Roberts a'i Fab yn arbennig Bethan a Delyth am eu trefniadau trylwyr ac urddasol ac am eu cymorth a'u cefnogaeth i'n cynnal yn ystod amser anodd.
Keep me informed of updates