Sally Llywela MairRHYSYn dawel ar fore Llun Awst 22ain 2022 bu farw Llywela Rhys yng nghartref Bryn Illtyd, Penbre. Wedi ei magu yn Llanarth a Synod treuliodd gyfnodau ym Mrynaman, Pwll, Blaen-y-coed a Phwllheli cyn ymgartrefu yn Llanelli. Mam gydwybodol i Catrin, Dafydd a Mari a mamgu annwyl i Eleri, Martha, Sam, Celyn a Hâf, a chwaer y diweddar Margaret. Roedd Cymru a chymreictod yn ganolog i'w bywyd ac roedd hi'n gadarn ei daliadau. Cynhelir angladd cyhoeddus yng Nghapel Brynrhiwgaled, Synod Inn ar ddydd Mercher, Medi 7fed 2022 am 1.00 o'r gloch i'w ddilyn gan wasanaeth i'r teulu yn Amlosgfa Aberystwyth am 3.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir cyfraniadau tuag at meddwl.org drwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnydd Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, Ceredigion. SA44 4XB. Ffon 01545 590254. On Monday August 22nd 2022 at Bryn Illtyd Residential Home, Pembrey Llywela Rhys peacefully passed away. Raised in Llanarth and Synod she spent periods at Brynaman, Pwll, Blaen-y-coed and Pwllheli before settling in Llanelli. A dedicated mother to Catrin, Dafydd and Mari and a loving grandmother to Eleri, Martha, Sam, Celyn and Hâf, and sister of the late Margaret. A highly principled woman who believed in Wales and was proud of our culture and heritage . A funeral service will be held at Brynrhiwgaled Chapel, Synod Inn on Wednesday, 7th September 2022 at 1.00 p.m followed by a service for the family at Aberystwyth Crematorium. Family flowers only but gifts can be donated to meddwl.org if so wished through the Funeral Directors Cenfil Reeves & Son, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, Ceredigion. SA44 4XB Tel: 01545 590254