BettyRICHARDSRICHARDS Dymuna Betty, Elfyn, Gwyn a'r teulu, Lon Botwnnog, ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth o golli ALWYN, gwr, tad, tad yng nghyfraith a thaid annwyl a charedig. Diolch am yr holl gardiau, llythyrau, galwadau ffon a'r ymweliadau a fu'n gymorth a chysur mawr ar adeg mor drist. Diolch i Emlyn Richards ei frawd am y gwasanaeth a'r deyrnged arbennig ddydd yr angladd, hefyd i Alaw Pierce ei nith am gyfeilio, i'r ymgymerwr R. O. Jones, Talafon, Tudweiliog am ei drefniadau trylwyr a gofalus, i teulu Felin Sarn (Mill House) am baratoi'r lluniaeth ac i bawb a fu o gymorth ar ddydd yr angladd. Diolch i staff Ward Ogwen, Ysbyty Gwynedd a Meddygon a Staff Meddygfa Rhydbach am eu gofal caredig, ac hefyd diolch o galon am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof tuag at Meddygfa Rhydbach ac Ymatebwyr Cyntaf Sarn a'r Cylch sydd o swm £1,027.
Keep me informed of updates