BettyROBERTSROBERTS - BETTY WYN Medi 17, 2008 yn dawel yn Ysbyty Bron y Garth, Minffordd, o 1 Tre'r Ddol, Pentrefelin, yn 82 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Tom Parry Roberts, mam arbennig Mary, David a Cledwyn, mam yng nghyfraith hoff Hubert, Liz a Myfanwy, nain a hen nain gariadus ei holl wyrion, wyresau, gorwyrion a gorwyresau, chwaer dyner Eirlys, Gretta ac Ellis a'r diweddar David John a Gwilym. Gwasanaeth cyhoeddus yn Neuadd yr Eglwys ym Mhentrefelin am 1.30 o'r gloch ddydd Mercher Medi 24 ac i ddilyn ym Mynwent Tabor. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Gyfeillion Canolfan Iechyd Criccieth trwy law Mr Ellis Jones, Dolwar, Pentrefelin neu yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Criccieth (01766) 522854
Keep me informed of updates