JeanROBERTSROBERTS - JEAN. Mehefin 6ed, 2008, yn sydyn yn ei chartref, 26, Maes Ogwen, Tregarth. Yn 66 mlwydd oed. Priod cariadus Ken. Mam annwyl Delyth a Dylan. Mam yng nghyfraith Tony a Bethan. Nain trysorus Rhys, Elissa, Erin, Alaw Non a Daniel Celt. Chwaer hoffus Emyr Thomas a ffrind arbennig i bawb o'i chyfeillion. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Shiloh, Tregarth dydd Iau, Mehefin 12fed am 1 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ty Gobaith trwy law Stephen Jones, Trefnwr Angladdau, Swyddfa'r Graig, Penrhos, Bangor. 01248 360001.
Keep me informed of updates