OwenROBERTSROBERTS - OWEN GLYN (Glyn Tir Du, Trefor) Dymuna Megan a'r teulu ddiolch am bob cydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Glyn ac am bob gofal a charedigrwydd a gafodd yn ystod ei waeledd. Diolch am y rhoddion hael o £843 a dderbyniwyd er cof amdano trwy law Emlyn Cullen ac a rannwyd rhwng Ward Moelwyn, Meddygfa Llanaelhaearn a Chronfa'r Nyrsus Cymunedol. Diolch i'r Parch Ddr Goronwy Prys Owen; y Canon Idris Thomas a'r organydd, Wenna Roberts am eu gwasanaeth graenus ar ddydd yr angladd. Diolch i Ifan Hughes am ei drefniadau trylwyr ac i Bopty'r Foel am drefnu'r lluniaeth. Gwerthfawrogwyd y cyfan.
Keep me informed of updates