ThomasROBERTSROBERTS - Dymuna teulu'r diweddar Thomas Jones Roberts, Gwelfor, Tudweiliog ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddiweddar o golli un oedd mor annwyl ganddynt. Gwerthfawrogir yn fawr wasanaeth y Gofalwyr Cartref, Meddygon a Staff y Feddygfa, Nefyn a charedigrwydd Staff Ward Dulas, Ysbyty Gwynedd. Diolch am wasanaeth Y Parch R. O. Roberts, Y Parch G. Rhydderch a'r Barch. Olwen Williams ddiwrnod yr angladd ac i Mrs. Gwenan Hughes am gyfeilio. Gwerthfawrogir yn fawr drefniadau trylwyr Mr. R. O. Jones. Casglwyd £1,300 tuag at Y Gymdeithas Stroc. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates