ROBERTS- Dymuna Elfed Roberts, Gwynant, Ffordd y Brenin, Pen-y-groes, Ifan, Sian, Ian, Gwion a Gwen ddiolch i'w teulu, cyfeillion a chymdogion am bob arwydd o gariad a charedigrwydd yn ystod gwaeledd ac ar farwolaeth JENNIE ROBERTS a fu'n wraig, yn fam ac yn nain annwyl iawn. Diolch i bawb gyfrannodd mor hael tuag at yr achosion lleol er cof amdani. Diolch i Dr. J. Morris Jones, Meddygfa Dolwenith, Pen-y-groes, ac i'r Nyrsus Cymunedol am eu gofal arbennig. Diolch i'r Parchedig Iwan Llewelyn Jones am ei gefnogaeth a'i gysur ac i'r Parchedig Dewi. T. Morris a'r Parchedig Geraint Hughes am eu cyfraniad didwyll yn y gwasanaethau. Diolch i'r Ymgymerwyr, Roberts & Owen, Pen-y-groes am eu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol.
Keep me informed of updates