GraceROBERTSDymuna teulu'r ddiweddar Grace Roberts, Llanfairpwll, ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn dilyn colli un a oedd mor annwyl ganddynt. Diolch yn arbennig i'r Parch. Geraint Roberts am ei wasanaeth ar ddiwrnod ei hangladd, ac am gymorth y Parch. Hywel Meredydd yn y gwasanaeth coffa yn y prynhawn. A diolch am gyfraniadau allweddol yr organydd John Edwards, Jennifer Jones a Jean Pleming yn y gwasanaeth arbennig hwnnw. Diolch yn ogystal i Gwenan a Morfudd (W.O & M. Williams, Llanedwen) am eu gwasanaeth meddylgar a thrylwyr. Derbyniwyd ?700 er cof am Grace, i'w rannu rhwng Eglwys Unedig Rhos-y-Gad a Chartref Gofal Plas Mona. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates