Glenys EdnaROBERTSDymuna Debbie, Clive a'r teulu ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth lem o golli Mam a Nain annwyl ac arbennig. Diolch am yr holl gardiau, ymweliadau a galwadau ffôn, ac am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Glenys tuag at British Heart Foundation (Cymru) a Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Diolch i'r Parch Christopher Prew am ei wasanaeth urddasol ddydd yr angladd ac i'r organyddes Marian Roberts am ei gwasanaeth hithau. Yn olaf diolch i'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates