Robert JohnROBERTS(Robin Gorslwyd Bach) - 29ain o Ebrill 2022. Hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o Gartref Gwyddfor, Bodedern - gynt o Gorslwyd, Bethesda Street, Amlwch, Ynys Môn, yn 90 mlwydd oed. Brawd annwyl Peter a'r diweddar Glyn; brawd yng nghyfraith hoffus Betty, Catherine a'r diweddar Ceinwen; ewythr ffeind Sian a Kevin, Dafydd a Ruth, Olwen a Terry, Sioned ac Emyr ac Yncl Robin i'r rhai iau. Ei fywyd oedd canu a chymdeithasu yn hwyliog a charedig gyda phawb oedd yn ei adnabod. Angladd cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, ddydd Gwener, 13eg o Fai, 2022 am 2:30yp. Blodau'r teulu yn unig a ni dderbynnir rhoddion. Ymholiadau pellach drwy'r Ymgymerwr Arwyn Hughes, Bryn Hyfryd, Dulas, Ynys Môn, LL70 9PJ a'r Hen Fecws, Marian-Glas, Ynys Môn. Ffôn: 01248 410353
Keep me informed of updates