GwilymROBERTSDymuna Geraint a Nerys, Richard a Glenys a'u teuluoedd ddiolch am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth yn gardiau, ymweliadau, galwadau ffôn a chyfraniadau o £2,600 er cof amdano tuag at Eglwys Sant Caffo, Llangaffo. Collwyd tad, tad yng nghyfraith, taid a hen daid annwyl. Diolch yn arbennig i Feddygon a Staff Meddygfa Penbryn, Dwyran a Ward Prysor Ysbyty Gwynedd am eu gofal a charedigrwydd tuag ato. Diolch i'r Parchedig Ganon Emlyn C. Williams, Parch Elizabeth Roberts a'r Parch Llywelyn Moules Jones am y gwasanaeth teimladwy ar y diwrnod. Mrs Karen Whalley yr organyddes, Mrs Elma Rowlands am y blodau hardd yn yr eglwys ac i Helen ac Olwen, gofalwyr yr eglwys a hefyd i Richard Parry Jones am y deyrnged arbennig ac yn olaf i Gwenan a Morfudd o W. O. a M. Williams am eu trefniadau gofalus ac urddasol.
Keep me informed of updates