SueROBERTS(Susie Ceridwen Roberts)
24 Medi 2025, o 5 Tan y Cae, Bethel, Caernarfon a hunodd yn dawel yng ngofal tyner Cartref Nyrsio Plasgwyn, Pentrefelin, Porthmadog yn 90 mlwydd oed.
Priod annwyl a gofalus y diweddar Hywel, mam gariadus Ann, Morfudd, Alwena, Iola a Huw. Mam yng nghyfraith Medwyn, Hefin, George a Bethan a'r diweddar Bob. Nain a hen nain hoffus i'w gwyrion a'i gwyresau, ei gor-wyrion a gor-wyresau. Chwaer annwyl ei diwedddar frodyr a chwiorydd a'u teuluoedd.
Angladd cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, dydd Mawrth, 21 Hydref am 11 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir, tuag at Ymchwil Alzheimer.
Ymholiadau E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates