ClwydROGERSDymuna Beryl, Marian, Helen ac Arwyn a theulu'r diweddar Clwyd Rogers, Llys Alaw, Llannefydd ddatgan eu diolch cywiraf i berthnasau, ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad á hwy yn eu profedigaeth o golli gwr, tad, taid a brawd yn ddiweddar. Diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Clwyd tuag at Gofal Dydd Capel Waengoleugoed ac Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i'r Parchedig Aneurin Owen am arwain y gwasanaeth ddydd yr angladd a diolch yn fawr i Mrs Mair B Williams am chwarae'r organ. Diolch i Carol Wynne a'r merched am y lluniaeth. Diolch yn fawr iawn i Arwel a phawb o gwmni R.W. Roberts a'i Fab am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates