AnnieTHOMASDymuna Carys, Glenys, Nerys a theulu'r ddiweddar Annie Thomas, gynt o Gilfach, Stad Ty Hen, Waunfawr, ddiolch o galon am bob caredigrwydd a chydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, mam yng-nghyfraith, nain, hen-nain, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith annwyl. Diolch i staff Cartref Plas Pengwaith, Llanberis, Ysbyty Gwynedd a Meddygfa Waunfawr am eu gofal caredig. Diolch i'r Parchedig Anna Jane am ei gwasanaeth teimladwy, i Mrs Gwenda Griffith, yr organyddes, Llechan, Tal-y-Bont am y lluniaeth wedi'r angladd a Roberts & Owen, Penygroes am y trefniadau trylwyr, personol a phroffesiynol. Diolch am y rhoddion hael o £1,120 a gasglwyd ac a rannwyd rhwng Cronfa Plas Pengwaith a Meddygfa Waunfawr.
Keep me informed of updates