TraceyTHOMAS10 Ebrill, 2025. Yn sydyn, ond yn dawel yng nghwmni ei phriod, yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 3 Bron Helen, Clwt y Bont, Deiniolen yn 57 mlwydd oed. Priod annwyl Ceirion, mam a nain ofalus, chwaer arbennig, a merch y diweddar Bob a Margaret Rotheram. Hefyd modryb garedig a chyfaill triw i lawer.
Angladd brynhawn Gwener, 16 Mai, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist, Llandinorwig am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah, Deiniolen.
Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates