CyrilTHOMAS25 Mehefin, 2025. Yn sydyn, ond eto'n dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o 28 Y Dreflan, Rhosgadfan, yn 75 mlwydd oed.
Priod cariadus a ffyddlon Anwen a thad arbennig Darren, Rich, Diane, David, Gwilym, Lynne, Martin a Steven. Tad-yng-nghyfraith hoffus a thaid balch i'w holl wyrion a wyresau, a hen-daid gofalus Deio a Guto. Brawd triw i saith o frodyr a tair chwaer, ffrind a chymydog annwyl i'w deulu a'i ffrindiau oll, a bydd yn golled fawr i bawb oedd yn ei adnabod.
Angladd brynhawn Gwener, 8 Awst, 2025. Gwasaneth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Mae croeso i bawb pe dymunir, i wisgo gwisg lliwgar. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Cyril tuag at Meddygfa Waunfawr. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6Pl. 01286 881280.
Keep me informed of updates