TegwenTHOMAS25 Mawrth 2026
Yn dawel yn ei chartref Ty'n Lon, Capel Coch, Llangefni yng nghwmni ei mab a'i merch yng nghyfraith yn 93 mlwydd oed.
Gwraig ffyddlon y diweddar Richard Thomas, mam arbennig Eirwyn a'i briod Hefina a'r diweddar Richard, chwaer hoff Medwen a'r ddiweddar Gwenfron a Gwynfôn, chwaer yng nghyfraith Miriam, modryb garedig i'w nithoedd a'i neuant a ffrind i lawer. Gwelir ei cholli gan ei theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Mercher, 15 Ebrill 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ty Mawr, Capel Coch am 1.30 o'r gloch. Ac i ddilyn yn breifat ym Mynwent Llanfihangel Tre'r Beirdd.
Dim blodau ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Capel Ty Mawr a Meddygfa Glan Menai trwy law
Griffith Roberts a'i Fab,
Preswylfa, Fali.
Ffôn (01407) 740 940
Keep me informed of updates