WallisTHOMPSONYn dawel ddydd Sadwrn, Ebrill 29ain yn Ysbyty Glangwili, bu farw Wallis, Godrellain, Meidrim. Priod annwyl Olive, tad cefnogol Caroline, Elgan, Iona a'r diweddar Emyr, tad yng nghyfraith parchus Emyr a Garyl, tad-cu hoffus Daniel, John, Kristina, Dafydd, William, Tomos ac Anna, hen dad-cu Idris a Ronnie. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ddydd Mawrth, Mai 16eg am 1.45 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law'r Trefnwr Angladdau:Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin SA33 6TE (01994 484540 / 07974 313719).
Keep me informed of updates