Lilian JeanWALTERS(nee Blundell) Yn dawel ar fore Sadwrn 22ain o Fai 2010 yn ei chartref 5 Heol-y-Bryn, Synod Inn hunodd Jean yn 76 mlwydd oed, priod ffyddlon Danny, Mam gariadus Sonia, Gorwyn, Vaughan, Andrew, Hayley a Rickie, Mam-gu annwyl a mam-yng-nghyfraith barchus. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Maenygroes, Ceinewydd ar Ddydd Gwener 28ain o Fai 2010 am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir tuag at Ffagal Gobaith, Marie Curie a Nyrsys Macmillan - trwy law - Cenfil Reeves, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul. Ffôn 01545 590 254.
Keep me informed of updates