EmlynWALTERSYn dawel Ddydd Llun, Ebrill 10fed, bu farw Emlyn, Awelfan, Dôl y Dderwen, Llangain, gynt o Nantyfuwch, Hermon. Priod annwyl Annie, tad cariadus Sulwen, Sylfia a Siriol, tad yng nghyfraith David, Richard a David, tadcu tyner Rhodri ac Angharad, brawd hoffus Goronwy a'r diweddar Glanville. Gwasanaeth preifat yng Nghapel Smyrna, Llangain Ddydd Iau, Ebrill 20fed, 2023 am 12 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at Adran Awdioleg Ysbyty Glangwili trwy law'r Trefnwr Angladdau: Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin SA33 6TE Ffôn: 01994 484540 /07974 313719.
Keep me informed of updates