VioletWILLIAMSWILLIAMS - Dymuna Violet, Myfanwy, John, Iola a theulu'r ddiweddar ETHEL WILLIAMS o Plas Penlan, Llangefni ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen nain annwyl. Diolch yn arbennig i'r Parchedigion John Rice Rowlands a Richard.O.Jones am eu gwasanaeth ddydd yr angladd, i Robin (R. Hughes a'i Fab) am ei drefniadau trylwyr a theimladwy a diolch am y rhoddion hael er cof a dderbyniwyd, ac a fydd yn cael eu rhannu rhwng Plas Penlan ac Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch o galon i bawb yn enwedig staff Plas Penlan dros gyfnod o amser.
Keep me informed of updates