MarjorieWILLIAMSWILLIAMS - Dymuna Marjorie, Menai, Gilym a theulu Mrs ANNIE ELIZABETH WILLIAMS, Ty Newydd, Bethel, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth drwy ymweliadau, galwadau ffon a chardiau, o golli mam, nain a hen-nain annwyl. Diolch i'r Parchedigion Gwynfor Williams, Eryl Lloyd Davies, Ronald Williams, Robert Townsend, Gwilym Parry ac R.E. Hughes a roddodd deyrnged garedig yn y gwasanaeth. Hefyd i Angharad Wyn Williams am deyrnged bersonol i'w nain. Diolch i Matron a staff Cerrig-yr-Afon, Y Felinheli, am eu gofal tyner. Diolch i Mrs Beti Owen yr organyddes ac Ieuan Williams am eu cymorth parod. Diolchir hefyd am y rhoddion hael er cof i'w rhannu rhwng Cerrig yr Afon, a Capel Bethel. Yn olaf diolchir i Mr E. Pritchard a Gwynfor Jones am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Marjorie