ArthurWILLIAMSDymuna Mary a'r genod, yn ogystal a theulu y diweddar Arthur Williams, Cae Mawr, Llanfechell ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynwyd atynt ar golli gwr, tad, taid a hen daid 'Wagan' annwyl. Bu'r llu o gardiau, galwadau ffon a'r ymweliadau yn gysur mawr i ni i gyd. Diolch i Dr Barbara Griffiths, Mrs Eirian Evans a'r staff i gyd yn Meddygfa Cemaes am eu gofal proffesiynol a charedig. Diolch hefyd i'r tim Nyrsio Cymunedol am fod mor ffyddlon. Diolch yn fawr i'r Parchedig Emlyn Richards a fu'n gyfrifol am y gwasanaeth angladdol ac hefyd am 'fugeilio' ni fel teulu ar hyd y blynyddoedd. Bydd y cyfraniadau hael a dderbyniwyd yn mynd tuag at Apel Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch hefyd i'r ymgymerwyr, Gareth Owen a'r staff i gyd o Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali am eu trefniadau trylwyr a gofalus. Diolch o galon i pawb.
Keep me informed of updates