JaneWILLIAMSWILLIAMS - JANE. Dymuna Ellen, Margaret a Catherine, a theulu'r diweddar Jane Williams, Glan y Don, Malltraeth, Bodorgan, Ynys Mon, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu profedigaeth. Diolch i'r Parchedig Gerallt Lloyd Evans, Y Parchedig Richard Owen Jones, Melin y Coed a'r Parchedig Christopher Prew am eu gwasanaeth ddydd yr angladd ac i'r organyddes Mrs Menai Griffiths. Diolch hefyd i'r ymgymerwr, Mr T.M. Hughes am ei wasanaeth trylwyr.
Keep me informed of updates