LonaWILLIAMSWILLIAMS - LONA, Rhagfyr 31 2014. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn 69 mlwydd oed, o 4 Glan y Wern, Talsarnau a gynt o Rhosigor, Talsarnau. Priod ffyddlon y diweddar Gareth a mam balch Ffion, Sioned a Glesni a'u gwyr Dylan, Stephen a Rhodri. Nain gorau yn y byd i Llyr, Cai, Iwan, Lois, Llio, Harri, Mali, Gwion, Guto a Cara. Chwaer ffyddlon Medwyn a'i wraig Audrey a'u merch Llinos. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Llanfihangel y Traethau, Talsarnau Dydd Iau Ionawr 8fed am 1.00 o'r gloch ac yna i ddilyn ym mynwent yr Eglwys. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ymchwil Cancr trwy law'r Ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog, Gwynedd 01766 512091.
Keep me informed of updates