Olwen MaiWILLIAMSDymuna teulu y ddiweddar Olwen Mai Williams, Foel, Cwm Penmachno ddiolch i ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynwyd iddynt yn ystod eu profedigaeth o golli modryb a hen fodryb annwyl. Diolch am y cardiau, galwadau ffon a'r ymweliadau a'r Foel. Diolch i'r Parchedig Gerwyn Roberts am ei gefnogaeth ac am arwain y gwasanaeth yn Eglwys Unedig Penmachno. Hefyd i'r Parchedig Iorwerth P Jones am ei gyfraniad yn yr angladd ac i Mrs Jane Hughes, yr organyddes. Diolch am y rhoddion hael tuag at Elusen Ty Gobaith (Conwy) ac Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i Eleri a staff Popty Pen Ucha am baratoi y lluniaeth. Diolch arbennig i'r Ymgymerwr Hefin Evans o R W Roberts a'i Fab, Abergele, am ei garedigrwydd a'r trefniadau gofalus a theimladwy. Hoffem fanteisio ar y cyfle yma o ddiolch i Ofalwyr Cymdeithasol Cyngor Conwy, ffrindiau a chymdogion a wnaeth roi gofal a help i Olwen dros y blynyddoedd diweddar. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates