RoyWILLIAMSDymuna Rhona, Einir, Rhian, Bethan, Huw a theulu'r diweddar Roy Williams, Llandyfrydog ddatgan eu gwerthfawrogiad a'u diolch diffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli priod, tad a thaid annwyl iawn. Diolch arbennig i'r Parchedig Emlyn Richards am arwain y gwasanaeth ddydd yr angladd ac i'r Parchedig Geraint Roberts a'r Parchedig Hugh Pritchard am eu cyfraniad. Diolch i Mrs Eirian Rowlands am ei gwasanaeth wrth yr organ. Diolch i Bethan Wyn Grim am ei theyrnged arbennig i'w thad, ac i Mr Thomas Rowlands am ei deyrnged yntau fel cyd-flaenor a chyfaill. Diolch i Feddygon a Staff Meddygfa Glan Menai am bob gofal, a diolch hefyd i Staff Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd. Diolch o galon am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof, tuag at Gapel Parc a Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd. Diolch i Mr Gareth Owen - Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali am y trefniadau gofalus, urddasol a thrylwyr.
Keep me informed of updates