Elisabeth LloydWILLIAMSDymuna Harry, Shan, Alys, Rhys a'r teulu oll ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd atynt yn eu profedigaeth lem o golli gwraig a Mam annwyl ac arbennig iawn. Diolch am yr holl gardiau galwadau ffon a phob ymweliad, a diolch hefyd am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Elisabeth, £1,400 a fydd yn mynd tuag at Gronfa Nyrsus Cymuned Llyn. Dioch arbennig i holl staff Nyrsus Cymuned Llyn, Nyrs Respiriadol Ysbyty Bryn Beryl, Meddygfa Rhydbach, staff Ysbyty Gwynedd, Hospis yn y Cartref, Gwasanaeth Ambiwlans a Fferyllfa Nefyn am eu gofal yn ystod ei gwaeledd. Diolch i'r Gweinidog Ffocal Donald Roberts am ei wasanaeth cartrefol ac urddasol ar ddydd yr angladd, i'r organydd Tudur Eames ac i Rolant Wynne am ei deyrnged arbennig. Diolch am gefnogaeth aelodau Eglwysi Llaniestyn a Llandegwnning. Yn olaf diolch i'r Ymgymerwr R.O. Jones, Tudweiliog am ei ofal a threfniadau trylwyr.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elisabeth