MeganWILLIAMSEr cof am Megan Williams, gynt o 2 Bryn Islwyn, Penrhyndeudraeth. 18/07/1927 - 29/03/2020 Hoffai Sylvia, Susan a'r teulu ddiolch i bawb a gysylltodd â hwy yn ystod eu profedigaeth. Diolch arbennig i Sharon a'r staff yng Nghartref Gofal Plas Newydd, Cricieth am yr holl gyfeillgarwch a chefnogaeth a ddangoswyd tuag at Megan yn ystod ei hamser yno. Diolch i Sioned, Kev, Donna, Lowri a Cel, heb anghofio Begw, Deio, Eban, Leusa ac Erain am eu cariad. Diolch yn fawr hefyd i 'ail deulu' Megan, sef Gwen, John, Lydia a'u teuluoedd, gynt o Tristan, Penrhyndeudraeth, am eu caredigrwydd a'u cariad diamod tuag at Megan. Derbyniwyd rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at y Gwasanaeth Parafeddygon / Ambiwlans Gwynedd.
Keep me informed of updates