TecwynWILLIAMSDymuna Mai, Raymond, Ann, Len a theulu y diweddar Tecwyn Williams, Fedw, Carmel, Llanrwst ddiolch o galon am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli priod, tad a thaid annwyl iawn. Gwerthfawrogir y llu o gardiau a'r galwadau ffôn a'r rhoddion hael o £795 a dderbyniwyd er cof am Tecwyn tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch arbennig i'r Parchedig Gerwyn Roberts, Mrs. Mair Williams a Mr. Dennis Davies am eu gwasanaeth cysurlon yng Nghapel Seion, Llanrwst. Rydym fel teulu yn hynod o ddiolchgar i staff Cartrefle, Llanrwst am eu gofal tyner tuag at Tecwyn. Diolch hefyd i R. W. Roberts a'i Fab am eu trefniadau gofalus a thrylwyr. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates