Ellen MaryWILLIAMSDymuna Eifion, Myra, Mattie, Margaret a Morris ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, mam-yng-nghyfraith, nain a hen-nain arbennig, sef Ellen Mary Williams, 4 Bryn Llan, Llandwrog ar 2 Rhagfyr, 2021. Diolch am bob galwad ffôn, cardiau, blodau a'r rhoddion hael a dderbynnwyd tuag at Apêl Alzheimers a Meddygfa Waunfawr. Casglwyd £725, diolch i bawb. Diolch arbennig i Dafydd Iwan am wasanaeth teimladwy a chynnes ac i Liz, Ceri a Jonathan am eu rhan yn y capel. Diolch yn ogystal i Iolo a chriw Roberts and Owen am eu gwaith gofalgar a thrylwyr.
Keep me informed of updates