DerfelWILLIAMSDymuna Anwen, Linda a theulu'r diweddar Derfel Williams ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli brawd arbennig iawn. Mawr yw ein diolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am eu cefnogaeth a'u gofal ohonom. Diolch yn arbennig i'r Nyrsus Ardal am fisoedd maith o ofal caredig ac i'r Timau Meddygol eraill a Gofal (Alltwen) fu'n ymwneud ag ef. Diolch hefyd i'r Parch. Dyfed Wyn Roberts am ei wasanaeth teimladwy a phriodol ddydd yr angladd ynghyd a'r unigolion eraill gymrodd ran, ac i Iolo a'i staff yn Roberts ac Owen am y trefniadau tyner, urddasol a thrylwyr. Yn olaf diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Derfel tuag at Cancer Research UK, bydd swm o £1,100 yn cael ei drosglwyddo er cof am ein brawd.
Keep me informed of updates