Edward Llewelyn Bvsc MrcvsWILLIAMSo Rhydygarnedd, Llanegryn (gynt o Dolaugwyn ac yn wreiddiol o Cefn Carrog, Llangefni).
Bu farw'n dawel yn ei gartref, gyda'i deulu wrth ei ochor, ddydd Sadwrn 7 Chwefror 2026, yn 83 mlwydd oed.
Gŵr annwyl Marian; tad cariadus Margaret a Hugh; tad-yng-nghyfraith annwyl Lee a Jessica; taid balch a gofalgar i Joseph, Sara, William ac Edward; a brawd annwyl iawn i Eleanor.
Sylfaenydd Williams Vets, cymhwysodd Edward fel llawfeddyg milfeddygol ym 1964 o Brifysgol Bryste. Aeth ymlaen i sefydlu'r practis milfeddygol gyda'i wraig, Marian, ym 1982. Ers ei ymddeoliad, roedd Edward yn ymwelydd cyson â'r feddygfeydd ac yn wyneb cyfarwydd yn y gymuned, a bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb a'i hadwaenai.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebeneser, Tywyn, ddydd Sadwrn 28 Chwefror am 10.00 y.b., ac yna claddedigaeth breifat ym Mynwent Tref Tywyn.
Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion, os dymunir, er cof am Edward tuag at yr RNLI ac at Brosiect Canser Cymunedau Gwledig (Rhwydwaith Cymunedau Ffermio mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan), drwy law'r ymgymerwr.
* * * * *
WILLIAMS Edward Llewelyn BVSc MRCVS
of Rhydygarnedd, Llanegryn (formerly of Dolaugwyn; originally from Cefn Carrog, Llangefni).
Passed away peacefully at home, with his family by his side, on Saturday 7 February 2026, aged 83 years.
Beloved husband of Marian; loving father of Margaret and Hugh; much-loved father-in-law of Lee and Jessica; proud and caring Taid to Joseph, Sara, William and Edward; and a dearly loved brother of Eleanor.
Founder of Williams Vets, Edward qualified as a veterinary surgeon in 1964 from the University of Bristol. He went on to establish the veterinary practice with his wife, Marian, in 1982. Since retiring from the practice, Edward was a regular visitor to the surgeries and a familiar face in the community, and he will be greatly missed by all who knew him.
A public service will be held at Ebeneser Chapel, Tywyn, on Saturday 28 February at 10.00am, followed by private interment at Tywyn Town Cemetery.
Family flowers only, but donations, if desired, in memory of Edward towards the RNLI and the Rural Communities Cancer Project (The Farm Community Network in partnership with Macmillan Cancer Support), c/o the funeral director.
Benjamin Thomas Aftercare Funeral Services High Street, Tywyn LL36 9AD Tel: 01654 713975
Keep me informed of updates